Pweru Cymru Wyrddach: Croeso i wefan prosiect Parc Ynni Calon y Gwynt.
Y bwriad yw creu parc ynni tua 2.7km i'r gogledd o Clatter yn ardal weinyddol Cyngor Sir Powys, sef Parc Ynni Calon y Gwynt. Byddai'r parc ynni newydd yn cyfuno tyrbinau gwynt, paneli solar a batris storio ynni i gynhyrchu ynni glân a chyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol Cymru.
Ewch i'r dudalen Gwybodaeth am y Prosiect i gael mwy o wybodaeth.
Mae'r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Nod y wefan hon yw rhoi gwybod i chi am y cynlluniau ar gyfer y parc ynni. Mae'r wefan yn cynnwys tudalen Cwestiynau Cyffredin sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd i helpu i ateb cwestiynau cyffredinol eu natur sy’n codi’n aml yn ogystal â chwestiynau penodol ynghylch Parc Ynni Calon y Gwynt.
Y Datblygwr
Mae Parc Ynni Calon y Gwynt yn rhan o fenter ar y cyd rhwng Wind2 a chwmnïau sy'n cael eu rheoli gan Octopus Energy Generation.
Datblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol yw Wind2. Fe’i sefydlwyd yn 2016 gan Paula a Gerry Jewson, cyn-berchnogion a sylfaenwyr West Coast Energy. Mae gan y cwmni dimau yn yr Wyddgrug, Caeredin, Perth, Cromarty a Wells. Gydag arbenigedd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a hanes llwyddiannus o ddatblygu ffermydd gwynt a solar ar y tir ledled y DU, mae Wind2 yn helpu'r DU tuag at sero net.
Octopus Energy Generation yw un o fuddsoddwyr mwyaf Ewrop mewn asedau ynni adnewyddadwy a phrosiectau trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Mae’n rheoli mwy na 300 o brosiectau ynni gwyrdd ar raddfa fawr ar draws 13 o wledydd sy’n defnyddio technolegau gwahanol gan gynnwys gwynt ar y tir, gwynt ar y môr ac ynni solar.
Am fwy o wybodaeth am Wind2, ewch i'r dudalen Amdanom ni, wind2.co.uk