Parc Ynni Calon y Gwynt Photomontage

Budd Cymunedol a Rhanberchnogaeth

Cronfa Budd Cymunedol

Mae Wind2 ac Octopus Energy Generation wedi ymrwymo i sicrhau bod y cymunedau lleol yn elwa ar y parc ynni a byddant yn darparu cronfa budd cymunedol bwrpasol.

Fel rhan o'n cylch o ymgynghoriadau cyhoeddus sydd ar y gweill, byddwn yn gofyn am farn cymunedau lleol ar sut y dylid rheoli, dosbarthu a defnyddio'r gronfa. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei darparu i'w thrafod drwy ein hymgynghoriadau cyhoeddus.

Rhanberchnogaeth gymunedol

Yn ogystal â chronfa budd cymunedol, hoffai Wind2 ac Octopus Energy Generation archwilio modelau posibl ar gyfer rhanberchnogaeth gymunedol Parc Ynni Calon y Gwynt, lle byddai cymunedau ac unigolion lleol yn cael cyfle i fuddsoddi yn y prosiect.

Byddai amrywiaeth o strwythurau rhanberchnogaeth gymunedol yn cael eu harchwilio ar y cyd â'r gymuned leol ac Ynni Cymunedol Cymru, sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy'n darparu cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy'n gweithio ar brosiectau ynni yng Nghymru.

Ewch i Ynni Cymunedol Cymru am fwy o wybodaeth.