Parc Ynni Calon y Gwynt Photomontage 2

Gwybodaeth am y Prosiect

Y Prosiect

Byddai’r Parc Ynni Calon y Gwynt wedi’i leoli tua 2.7km i'r gogledd o Clatter, fel y dangosir isod. Mae'r map isod yn dangos lleoliad a ffin y safle (a amlinellir mewn coch) yng nghyd-destun yr ardal gyfagos. Sylwch fod y llinell goch yn dynodi lleoliad y safle. I weld lleoliad y tyrbinau gwynt, gweler cynllun y safle.

Y Cynnig

Mae'r datblygiad sydd mewn golwg wedi'i leoli'n gyfan gwbl o fewn Ardal sydd wedi’i Rhag-asesu (PAA) ar gyfer Ynni Gwynt fel y'i diffinnir yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 gyda'r holl dyrbinau wedi'u lleoli o fewn PAA 3.

Mae datblygiadau sy’n gallu cynhyrchu dros 10MW yn cael eu dosbarthu fel rhai o "Arwyddocâd Cenedlaethol". Gan fod cyfanswm capasiti allforio Parc Ynni Calon y Gwynt yn mynd i fod yn fwy na 100MW, bydd y prosiect yn dod o fewn y dosbarthiad hwn.

Manylion y Prosiect

Mae cynnig Parc Ynni Calon y Gwynt yn cynnwys hyd at 11 tyrbin gwynt gydag uchder mwyaf hyd at flaen y llafnau o 200m a chapasiti cynhyrchu o tua 80MW, tua 30MW o baneli solar wedi'u gosod ar y ddaear a hyd at 44MW o gapasiti storio batri. Datblygwyd y cynllun cychwynnol gan dîm prosiect amlddisgyblaethol sy'n cynnwys disgyblaethau technegol ac amgylcheddol. Cyn i'r cynigion gael eu cwblhau, bydd cynllun ac esblygiad y prosiect yn mynd trwy wahanol gylchoedd ymgynghori â'r cyhoedd, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill fel yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus perthnasol.


Manteision y Prosiect

Rhagwelir y bydd gan Barc Ynni Calon y Gwynt y potensial i gynhyrchu tua 250,000 MWh o drydan bob blwyddyn, sy'n ddigon ar gyfer anghenion dros 77,000 o gartrefi, gan wrthbwyso tua 47,000 tunnell o CO2 y flwyddyn**.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA)

Ar hyn o bryd mae tîm y prosiect yn cynnal cyfres o arolygon ac asesiadau amgylcheddol ar draws y safle. Bydd y canlyniadau'n cael eu cynnwys yn yr asesiad o’r effaith amgylcheddol (EIA) a'r broses o gynllunio'r parc ynni. Bydd yr arolygon yn llywio'r cynllun terfynol sy'n taro'r cydbwysedd gorau rhwng cynhyrchu cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy a sicrhau cymaint o fanteision cysylltiedig â phosibl gan osgoi neu leihau unrhyw effeithiau niweidiol posibl.

*Cyfrifwyd gan ddefnyddio'r ystadegau diweddaraf gan DESNZ sy'n dangos bod cartref domestig ym Mhrydain yn defnyddio 3,239kWh ar gyfartaledd (ym mis Ionawr 2024, ffigur yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol)
**Ystadegyn allyriadau "pob tanwydd anadnewyddadwy" DESNZ o 437 tunnell o garbon deuocsid fesul GWh o drydan a gyflenwir yn y Digest of UK Energy Statistics (Gorffennaf 2024) Tabl 5.14 ("Estimated carbon dioxide emissions from electricity supplied")