Photo 1509234909807 Cdbb6444B892

Amdanom Ni

Mae Wind2 Ltd yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol annibynnol wedi’i leoli yn y DU, gyda pherchnogion yn y DU, sy'n falch o fod yn rhan o'r trawsnewid i ynni glân. Mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn rhan o DNA Wind2 ac rydyn ni’n angerddol am yr hyn a wnawn.

Gyda'i brif swyddfa yn yr Wyddgrug yn y Gogledd a swyddfeydd yn yr Alban, a Lloegr, mae ein tîm o arbenigwyr ynni adnewyddadwy yn ymroddedig i helpu'r DU i ddileu ei dibyniaeth ar danwydd ffosil a chyflawni ei tharged sero net. O gychwyn y prosiect i’w gyflawni, mae tîm Wind2 yn dod â gwybodaeth a phrofiad helaeth i bob cam o ddatblygu ynni adnewyddadwy.

Mae Wind2, ynghyd â'i bartneriaid strategol, wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy gyda buddion cymunedol yn rhan greiddiol ohonynt.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wind2.co.uk